logo

Croeso i'r Tiwtiadur, casgliad o offer dysgu ac addysgu ar sail data sydd wedi’i gynllunio i fod yn gymorth ychwanegol i ddysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac oedran. Mae’r Tiwtiadur yn cynnwys pedwar offeryn gwahanol sydd wedi’u seilio ar y corpws:

  1. offeryn Llenwi Bylchau (Cloze) sy’n gadael i athrawon ddileu geiriau o destun bob hyn a hyn er mwyn annog neu asesu gallu o ran deall a strategaethau rhagfynegi
  2. offeryn Proffiliwr Geirfa sy’n golygu bod modd graddio testunau yn ôl amlder geiriau
  3. offeryn Adnabod Geiriau sy’n profi gallu dysgwyr i ddyfalu gair mewn cyd-destun
  4. offeryn Creu Tasg Geiriau sy’n hwyluso gwaith dwys ar eitem eirfaol benodol.
Mae’r holl offer yn defnyddio gwybodaeth o gorpws 10 miliwn o eiriau CorCenCC. Daw’r iaith yn y corpws o gyfathrebu ‘bywyd go iawn’, felly mae’r amlder geiriau a’r samplau iaith yn adlewyrchu sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio go iawn ar draws ystod o fathau o ddata, o siaradwyr/cyfranwyr gwahanol, mewn sefyllfaoedd gwahanol, ac yn trafod amrywiaeth o bynciau. Mae rhai o’r offer yn gadael i chi ddewis mathau gwahanol o samplau iaith i weithio gyda nhw, wedi'u seilio ar y pwnc sy'n cael ei drafod neu'r math o iaith - llafar neu ysgrifenedig - ac ati, er enghraifft.

Mae'r enghreifftiau a roddir ym mhob ymarfer wedi'u codi o destunau sydd, cyn belled ag y bo modd, wedi'u cymeradywo ar gyfer cynulleidfa o dan 18 oed.