Llenwi Bylchau
Mae'r offeryn yma yn gadael i chi greu tasg llenwi bylchau trwy ddefnyddio testunau o gorpws CorCenCC. Defnyddiwch yr opsiwn "Math o Destun" i ddewis y math o destun (e.e. math o destun 'blog'). Mae'r gosodiad "Amlder bylchau" yn gadael i chi osod y bwlch i ymddangos mor aml ag y dymunir, gan ddibynnu ar anhawster y dasg (y gosodiad a argymhellir yw pob 7fed - 9fed gair). Trwy ddefnyddio'r opsiwn "Hyd y Testun", gallwch ddewis gweld hapsampl o destun gyda 100, 200, 300, 400, neu 500 o eiriau o hyd. O glicio "Dechrau", bydd panel newydd yn dangos y dasg llenwi bylchau gyda'r geiriau sydd wedi'u dileu o'r testun yn ymddangos mewn panel ar wahân. Er mwyn cwblhau'r dasg, dewiswch eiriau o'r rhestr a'u teipio yn y bylchau priodol yn y testun. Pan fyddwch yn clicio "Gwirio", caiff y geiriau cywir a ddewiswyd eu hamlygu yn wyrdd, gyda'r geiriau anghywir a ddewiswyd yn cael eu hamlygu'n goch.