Proffiliwr Geirfa
Mae'r offeryn yma yn proffilio unrhyw destun yn ôl amlder geiriau. Er mwyn defnyddio'r offeryn, copïwch a gludwch destun i'r maes "Rhoi testun i mewn" neu teipiwch destun yn uniongyrchol i'r maes. Yna, cliciwch "Dechrau" i greu'r proffil, lle mae pob gair yn cael ei gategoreiddio yn ôl ei lefel amlder. Mewn cwarel ar wahân, fe welwch eglurhad o'r canlyniadau. Mae'r colofnau "Lefel"/"Band Amlder" yn ymwneud â faint o weithiau mae gair yn ymddangos yng nghorpws 10 miliwn o eiriau CorCenCC. Geiriau yn y band "K1" (1000 uchaf) yw'r 1000 gair mwyaf cyffredin eu defnydd yn y Gymraeg, yn ôl CorCenCC. Fel arfer, po fwyaf y geiriau yn y bandiau amlder is mewn testun (e.e. 3001-4000, 4001-5000 a >5001), mwyaf heriol fydd y testun hwnnw i'r dysgwyr. Noder, os gwelwch yn dda, y gall geiriau yn y band 5001+ gynnwys geiriau wedi'u camsillafu, geiriau o ieithoedd eraill a geiriau nad ydynt yn ymddangos yn y corpws yn ogystal â geirfa sy'n cael ei defnyddio'n anaml yn y corpws. Yn y rhagosodiad, bydd yr offeryn yn amlygu geiriau yn lefelau K1 i K6+. I newid yr offeryn i amlygu geiriau sydd yn y lefelau hyn, cliciwch ar "Amlygu geiriau heb lefel".